top of page

Am Gleddyfa

Cleddyfa yw un o'r chwaraeon sy'n tyfu'n gyflymaf yn y DU. Yn yr oes sifalri ffafriwyd cleddyfa fel dull o setlo materion anrhydedd, oherwydd ei ras a'i symlrwydd. Y rhain yw'r agweddau mwyaf deniadol o gleddyfa modern heddiw. Mae'n werth chweil iawn; yn datblygu ffitrwydd, hyblygrwydd a dygnedd, meddwl llym, ystwythder, mae’n hybi gydbwysedd a hunanhyder. Yn anad dim ... mae'n hwyl!!!!

 

Mathau o Gleddyf (Arfau):

Mae clefydda modern yn defnyddio tair math o arfau - y Ffoil, Epée, a'r Saber. Nid oes unrhyw un o'r arfau, gyda llaw, pwyntiau nac ymylon mân o unrhyw fath. Mae yna hefyd ddau fath o bob arf, trydanol ac an-drydanol.

 

Gyda cleddyfa trydanol mae'r arfau wedi'u gwifrio â chyfarpar sgorio electronig foltedd isel (batri fel arfer). Mae hyn yn galluogi taro ar wrthwynebydd i gael ei gofrestru ('codi') yn syth gan y cyfarpar. Mewn cleddyfa an-electrig, a chyfeirir ato'n aml fel 'ffensio stêm', mae beirniaid, fel arfer pedwar ohonynt yn dyfarnu pwyntiau. Mae'r pob clwb, a phob cystadleuaeth yn defnyddio offer cleddyfa trydanol erbyn hyn, er bod cleddyfa stêm yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hyfforddi a hwyl ambell waith!

 

Y Ffoil:

Defnyddiwyd hwn i ddechrau fel arf hyfforddi ar gyfer addysgu a hyfforddi cleddyfwyr a fyddai'n defnyddio Rapier (cleddyf go iawn) ond mae bellach wedi'i fabwysiadu fel arf ei hunain. Mae ffoiliau yn weddol ysgafn (500g) ac mae ganddynt lafnau cul hyblyg. Gwneir trawiadau gyda blaen y llafn yn unig, nid ei ymylon. Ardal darged dilys gwrthwynebydd yw'r corff uchaf yn unig, gan gynnwys y cefn, ond nid y breichiau, y coesau, y gwddf neu'r pen. Bydd unrhyw drawiad ar ardal darged annilys yn cael ei gofrestru fel 'oddi ar y targed'.

 

Mae'n ofynnol i gleddyfwyr i wisgo siaced ddargludol sydd wedi ei ddaearu (lamé) sy'n gorchuddio ardal y torso, fel bod modd i drawiadau dilys gael eu cofrestru gan y cyfarpar sgorio.

 

Yr Epée:

Mae hyn fel ffoil trymach (750g), gyda llafn llai hyblyg, mae'n fersiwn fodern o'r Rapier. Mewn modd tebyg, gwneir trawiadau gyda blaen y cleddyf yn unig. Er hynny, yr ardal darged dilys yw unrhyw ran o'r corff, o'r pen i'r traed. Gan fod y corff cyfan yn ardal darged, nid dim ond y torso fel gyda ffoil, nid oes angen gwisgo siacedi lamé ar cleddyfa epée trydanol.

Y Sabr:

Mae'r cleddyf a ddefnyddir sabr modern fel fersiwn deneuach a mwy hyblyg o'r cleddyf gwyr meirch gwreiddiol, a oedd yn arf torri (slaesu) a gwanu (trywanu) effeithiol. Oherwydd hyn, mae'r sabr chwaraeon yn sgorio trawiadau gyda blaen ac ymylon y llafn - sydd yn bwl gyda llaw!

 

Yr ardal darged dilys o ran ceddyfa sabr yw'r corff uchaf o'r wedd i fyny (popeth a fyddai wedi bod uwchben y ceffyl), ond nid y dwylo. Fel gyda ffoil, mae rheolau sabr trydanol yn mynnu eich bod yn gwisgo siaced lamé, sy'n gorchuddio o'r canol i fyny, gan gynnwys y breichiau, gan alluogi'r trawiadau i gofrestru. Gan fod y pen hefyd yn darged dilys, mae'n rhaid i fwgwdau cleddyfa sabr gael eu cysylltu'n electronig hefyd.

Ffensio yn yr Ysgol
Ffoil Match
Ffenswyr Epee yn Ymladd
Gêm Ffensio Sabre
bottom of page